Cystadlaethau i Oedolion – Llenyddiaeth

Cynhelir Eisteddfod Llwyfan a Llenyddiaeth ar Dydd Sadwrn, Gorffennaf 5ed 2025.


Cystadlaethau llenyddol

Croeso i unrhyw un gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, ym mhle bynnag y maent yn byw, boed trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, ac mae cystadleuaethau llenyddol yn benodol i ddysgwyr hefyd.

Gwelir manylion pellach a rhestr o’r cystadlaethau yn y ffurflen gais isod.

Dyddiadau pwysig

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16eg Mehefin 2025.

Cyflwynir y gwobrau llenyddol yn ystod y Eglwys Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni, Gorffennaf 5ed 2025.

Cyhoeddi’r enillwyr

Os ydy’ch gwaith wedi ennill gwobr, byddwn yn gadael i chi wybod cyn yr Eisteddfod er mwyn i chi gael dod i’r cystadlaethau terfynol, ar ffurf cyngerdd.Yn ystod y cyngerdd datgelir enillwyr y cystadlaethau llenyddol a chyflwynir y gwobrau. Os oes amser, darllenir ambell un o’r darnau buddugol.

Mae’n bosibl y bydd rhai o’r darnau buddugol hefyd yn cael eu cyhoeddi yn y wasg neu ar wefan yr eisteddfod.

Gwobrau

Rhoddir gwobr Gyntaf o £30, Ail o £20 a Trydydd o £10.

Sut i gystadlu

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein, sy’n cynnwys rhestr o’r cystadlaethau a sut i’w gyflwyno.

Lawrlwythwch y ffurflen gais fel Word document neu PDF version.

Neu gallwch yrru eich cais ynghyd â’ch gwaith at Rosemary Williams, 7 Cwrt Newydd, Crickhowell NP8 1AQ.

Cofiwch roi eich ffugenw yn unig ar eich gwaith.

 

CYSTADLAETHAU YSGRIFENEDIG IAITH GYMRAEG

Adran 1 – yn cyfateb i lefelau dysgu Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Lefel Mynediad
Ysgrifennwch neges i wahodd ffrind i barti.
(75 o eiriau)

Lefel Sylfaen
Ysgrifennwch am eich hoff siop leol.
(150 o eiriau)

Lefel Canolradd
Ysgrifennwch ddarn byr am gael pryd o fwyd yn eich hoff fwyty.
(300 o eiriau)

Lefel Uwch
Erthygl gyda’r teitl, “Dysgu Cymraeg – beth nesaf imi?”
(1000 o eiriau)

Adran 2 – cystadlaethau agored i siaradwyr iaith gyntaf ac ail-iaith rhugl

Stori fer neu erthygl
Ysgrifennwch stori fer ddoniol, dim mwy na 1000 o eiriau.
neu
Ysgrifennwch erthygl, dim mwy na 1000 o eiriau, ar “80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd – ble ydyn ni nawr?”.

Cerdd
Ysgrifennwch gerdd, hyd at 20 o linellau, ar y testun, “Gŵyl”.

Englyn neu Limerig
Ysgrifennwch englyn gyda’r teitl, “Bwydydd”.
neu
Ysgrifennwch limerig yn cynnwys y gair “cawl”.

 

Nodiadau

Y beirniad Mr Robat Powell
Mynediad £3 i’r Cyngerdd.
Tynnir lluniau ar y noson, a gallant gael eu defnyddio i hybu’r eisteddfod.

Gwybodaeth bellach

Os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â Rosemary Williams at davidwilliams177@btinternet.com (01873 811814 neu 07929 609689) os gwelwch yn dda.