Cystadleuaeth Oedolion – Lleisiol ac Offerynnol

Bydd Eisteddfod Llwyfan a Llenyddiaeth ar Dydd Sadwrn, Mehefin 29ain 2024.


Dyddiad cau: Mehefin 21ain 2024
Cynhelir rhagbrofion (os oes mwy na 3 chais) ar ddiwrnod yr eisteddfod o 10.00 y bore ymlaen
Cystadlaethau terfynol ar y llwyfan: 7 o’r gloch.

Lleoliadau

Rhagbrofion: Capel y Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni, NP7 5EH
Cystadlaethau terfynol: Capel y Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni, NP7 5EH

Cystadleuthau

1 Unawd, Dan 18 oed
2 Unawd, 19-25 oed
3 Her Unawd, 26 oed +
4 Unawd Gymraeg, Agored
5 Unawd o sioe gerdd, Agored
6 ’Ensemble’ Lleisiol (Dim mwy nag 8 llais)
7 ‘Ensemble’ Offerynnol, (Dim mwy nag 8)
8 Unawd Emyn, Agored
9 Unawd Offerynnol, Dan 18oed
10 Unawd Offerynnol, Dros 19 oed +
11 Alaw Werin, Agored
12 Llefaru Unigol, Agored
13 Grŵp Llefaru, Agored
14 Côr, Unrhyw rhif i ganu 2 ddarn – gwrthgyferbynniol

Rheolau

  • Gall y cystadleuwyr ddewis eu darnau eu hunain, i fyny at 10 munud o hyd.
  • Bydd y beirniaid yn cosbi’r cystadleuwyr os aiff eu perfformiadau dros yr amser hwn.
  • Rhaid i’r cystadleuwyr yrru dau gopi o’u cerddoriaeth, gan gynnwys y cyfeiliant, at Helen Middleton (gweled isod) i gyrraedd dim llai nag 2 wythnos cyn yr eisteddfod. Rhaid i un copi o’r gerddoriaeth fod yn gopi gwreiddiol.
  • Y Côr Buddugol i dderbyn beirniadaeth a gwobr ariannol – dim rhagbrawf
  • Rhowch eich enw a rhif y gystadleuaeth ar bob darn o gerddoriaeth. Caiff y copi gwreiddiol ei ddychwelyd atoch chi, a byddwn yn dinistrio unrhyw gopïau, i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Hawlfraint.

Sut i gystadlu

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.

Neu, gellwch gwblhau fersiwn Word o’r 2024 Ffurflen gais i oedolion lleisiol ac offerynnol a’i yrru fel atodiad at h.middleton47@hotmail.co.uk gan yrru eich cerddoriaeth yn y post ar wahân, neu yrru’r cyfan yn y post, at: Mrs H Middleton, 2 Bryn Afal, Y Pandy, Y Fenni, NP7 8DW.

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: Helen Middleton, ar 01873 890388 / 07949 693109 neu h.middleton47@hotmail.co.uk

Nodiadau

Y beirniaid  – I’w cadarnhau

 

  • Mae enillwyr yn derbyn gwobr ariannol a beirniadaeth ysgrifenedig
  • Croeso cynnes i ymwelwyr ddod i wrando ar y rhagbrofion, yn ogystal â’r cyngerdd yn Eglwys Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni NP7 5EH gyda’r nos, pan gynhelir y cystadlaethau terfynol.
  • Byddwn yn cymryd ffotograffau ac yn eu defnyddio i hybu’r eisteddfod.
  • Mae mynediad i’r rhagbrofion am ddim.
  • Gofynnir i ymwelwyr a chystadleuwyr i dalu mynediad o £3 i’r cyngerdd gyda’r nos.