Plant 5-11 Oed

Mae croeso cynnes i unrhyw un gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, ble bynnag y maen nhw’n byw, Gallant gystadlu yn Gymraeg neu yn Saesneg, fel unigolion, neu fel aelodau o grwpiau, ysgolion neu syfydlaoedd.

Cystadlaethau

Mae cystadlaethau yn cynnwys canu (lleisiol ac offerynnol), dawnsio gwerin, dawnsio disgo a llefaru ar gyfer unigolion a grwpiau. Gellir gweld rhestr lawn yn y ffurflen gais (gwelir “Sut i gystadlu” isod).

Dyddiadau ac amseroedd

  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau: Mawrth 22fed 2024.
  • Cystadlaethau terfynol ar y llwyfan: o 9:00 ymlaen, Dydd Sadwrn Ebrill 20fed 2024

Lleoliad

Ysgol Brenin Harri’r VIII, Hen Ffordd Henffordd, Y Fenni, NP7 6EP

Rheolau cystadlu

  • Rhaid i oedolyn cyfrifol, boed yn riant neu warcheidwad, yn athro neu’n arweinydd cymdeithas, fod gyda phlant dan 12 oed bob amser.
  • Gall cystadleuwyr ddewis eu darnau eu hunain, ond eu bod o fewn 4 munud o hyd.
  • Rhaid i’r deunyddiau a ddefnyddir, gan gynnwys testunau, cerddoriaeth a chaneuon, fod yn addas i bob oedran. Gwaherddir unrhyw berfformiad sy’n cynnwys deunydd anaddas.
  • Am resymau diogelwch a gofod, rydym wedi gosod uchafswm ar gyfer y niferoedd sy’n cystadlu yn y cystadlaethau i ensembles offerynnol a dawnsio cyfoes.

Cystadlaethau cerddorol

  • Rhaid i gystadleuwyr ddod â 2 gopi o’r gerddoriaeth gyda nhw, gan gynnwys y copi gwreiddiol. Mae un ar eu cyfer eu hunain a’r llall ar gyfer y beirniad; dylai enw’r cystadleuydd a rhif y gystadleuaeth fod ar y copi hwn. Byddwn yn dinistrio copïau ar ôl yr eisteddfod, i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawlfraint.
  • Bydd yn rhaid gwahardd unrhyw gystadleuydd nad yw’n cyflwyno cerddoriaeth.
  • Gall arweinwyr neu cyfeilydd fod yn oedolion neu’n blant.
  • Gofynnir i gystadleuwyr os oes angen cyfeilydd arnynt roi gwybod i’r trefnwyr a chyflwyno’r cyfeiliant ymlaen llaw (gweler y ffurflen gais isod).

Cystadlaethau llefaru

Gofynnir i’r cystadleuwyr ddod â 2 gopi o’r darn ar gyfer y beirniad a’r trefnydd.

Sut i gystadlu

Gallwch gwblhau’r ffurflen gais ar-lein.

Os hoffech chi gopi caled o’r gais, cysylltwch â Rosemary Williams ar 01873 811814 neu davidwilliams177@btinternet.com neu drwy’r post at: Rosemary Williams, 7 Cwrt Newydd, Crughywel, Powys, NP8 1AQ

Rhagor o wybodaeth

Os oes ymholiadau gennych, cysylltwch â Rosemary Williams ar 01873 811814 neu davidwilliams177@btinternet.com

Nodiadau

  • Croeso cynnes i ymwelwyr. Gall oedolion brynu tocyn am £3.00 yn y rhagbrofion, sy’n rhoi mynediad i’r rhagbrofion i gyd ac i’r cystadlaethau terfynol ddydd Sadwrn Ebrill 20fed.
  • Mae plant a phobl ifanc i fyny at 18 oed yn dod i mewn am ddim.
  • Byddwn yn tynnu ffotograffau ac yn eu defnyddio i hybu’r eisteddfod. Rhowch gwybod i aelod o’r Pwyllgor os nad ydych am eich plentyn gael ei lun wedi tynnu.

RHAGBROFION

Cynhelir rhagbrofion os oes mwy na thri chais ar gyfer unhryw gystadleuaeth. Bydd rhagbrofion os oes mwy na thri chais ar gyfer unrhyw gystadleuaeth.

Codir tâl mynediad i’r rhagbrofion o £3.00 i oedolion, sy’n mynd tuag at y gost o drefnu’r eisteddfod.  Mae’r tocyn a geir yn y rhagbrofion hefyd yn rhoi mynediad i’r eisteddfod ar Ebrill 20fed 2024.

Dyddiadau a lleoliadau rhagbrofion 2024

Mae’r rhagbrofion i gyd yn dechrau am 4.00 y prynhawn.

Cystadlaethau      Dyddiad      Lleoliad   
Dawns (gwerin a disgo) & Darllen ar yr olwg gyntaf Dydd Mawrth, Ebrill 9fed Ysgol Gymraeg Y Fenni
Llefaru Dydd Mercher, Ebrill 10fed Ysgol Llantilio Pertholau
Unawd lleisiol ac ensemble Dydd Iau, Ebrill 11fed Ysgol Gymraeg Y Fenni
Côrau Dydd Llun, Ebrill 15fed Ysgol Cantref
Offerynnol cynnwys piano Dydd Mawrth, Ebrill 16fed Ysgol Llanfoist Fawr

 

Sicrhewch eich bod chi’n dod â 2 gopi o’r gerddoriaeth a’r llefaru i’r rhagbrofion