Croesawyd y cofrestriadau ar gyfer cystadleuaeth Plant

Ganyfenny46

Croesawyd y cofrestriadau ar gyfer cystadleuaeth Plant

EISTEDDFOD Y FENNI DYDD SADWRN 21ain MAWRTH 2020

Mae croeso cynnes i unrhyw un gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, ble bynnag y maen nhw’n byw, Gallant gystadlu yn Gymraeg neu yn Saesneg, fel unigolion, neu fel aelodau o grwpiau, ysgolion neu syfydlaoedd.

Cystadlaethau

Mae cystadlaethau yn cynnwys canu (lleisiol ac offerynnol), dawnsio gwerin, dawnsio disgo a llefaru ar gyfer unigolion a grwpiau. Gellir gweld rhestr lawn yn y ffurflen gais (gwelir “Sut i gystadlu” isod).

Dyddiadau ac amseroedd

  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau: 7ed Mawrth 2020
  • Cynhelir rhagbrofion (os oes mwy na 3 chais i’r gystadleuaeth) cyn yr eisteddfod.
  • Cystadlaethau terfynol ar y llwyfan: o 9 o’r gloch ymlaen, Dydd Sadwrn 21ain Mawrth 2020

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Cystadlaethau

About the author

yfenny46 administrator

Leave a Reply