Cystadleuaeth Oedolion – Lleisiol ac Offerynnol

Bydd Eisteddfod Llwyfan a Llenyddiaeth ar Dydd Sadwrn, Gorffennaf 5ed 2025.


Dyddiad cau: Sadwrn Mehefin 28ain 2025
Cynhelir rhagbrofion (os oes mwy na 3 chais) ar ddiwrnod yr eisteddfod. Amser i’w gadarnhau.
Cystadlaethau terfynol ar y llwyfan: 7 o’r gloch.

Lleoliadau

Rhagbrofion: Capel y Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni, NP7 5EE
Cystadlaethau terfynol: Capel y Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni, NP7 5EE

Cystadleuthau

1 Unawd 11 – 18
1af: £40, 2ail: £30, 3ydd: £20
2 Unawd 19 – 25
1af: £60, 2ail: £50, 3ydd: £30
3 Unawd Gymraeg (Agored)
1af: £60, 2ail: £50, 3ydd: £30
4 Cân allan o Sioe Gerdd (Agored)
1af: £60, 2ail: £50, 3ydd: £30
5 Ensemble Lleisiol (Agored)
1af: £60, 2ail: £50, 3ydd: £30
6 Unawd – Canu Emyn (Agored)
1af: £40, 2ail: £30, 3ydd: £20
7 Cân Werin Draddodiadol yn ddigyfeiliant (Agored)
1af: £40, 2ail: £30, 3ydd: £20
8 Her Unawd 26+
1af: £150, 2ail: £100, 3ydd: £75, 4ydd: £50
9 Côr – 2 ddarn cyferbyniol (Agored)
1af: £150
10 Unawd Offerynnol dan 18
1af: £40, 2ail: £30, 3ydd: £20
11 Unawd Offerynnol 19+
1af: £60, 2ail: £50, 3ydd: £30
12 Ensemble Offerynnol (Agored)
1af: £60, 2ail: £50, 3ydd: £30
13 Llefaru Unigol (Agored)
1af: £50, 2ail: £30, 3ydd: £20
14 Grŵp Llefaru (Agored)
1af: £60, 2ail: £40, 3ydd: £30

Rheolau

  • Gall y cystadleuwyr ddewis eu darnau eu hunain, i fyny at 10 munud o hyd.
  • Bydd y beirniaid yn cosbi’r cystadleuwyr os aiff eu perfformiadau dros yr amser hwn.
  • Rhaid i’r cystadleuwyr yrru dau gopi o’u cerddoriaeth, gan gynnwys y cyfeiliant, at Rhiannon Davies (gweled isod) i gyrraedd dim llai nag 2 wythnos cyn yr eisteddfod. Rhaid i un copi o’r gerddoriaeth fod yn gopi gwreiddiol.
  • Y Côr Buddugol i dderbyn beirniadaeth a gwobr ariannol – dim rhagbrawf
  • Rhowch eich enw a rhif y gystadleuaeth ar bob darn o gerddoriaeth. Caiff y copi gwreiddiol ei ddychwelyd atoch chi, a byddwn yn dinistrio unrhyw gopïau, i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Hawlfraint.

Sut i gystadlu

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.

Neu, gellwch gwblhau fersiwn Word o’r 2025 Ffurflen gais i oedolion lleisiol ac offerynnol a’i yrru fel atodiad at rhiannon.davies57@outlook.com gan yrru eich cerddoriaeth yn y post ar wahân, neu yrru’r cyfan yn y post, at: Rhiannon Davies, Ty Codarac, Llanellen Court Farm, Llanellen, Abergavenny NP7 9HT.

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: Rosemary Williams, ar davidwilliams177@btinternet.com, 01873 811814 neu 07929 609689.

Nodiadau

Y beirniaid Fflur Wyn.

 

  • Mae enillwyr yn derbyn gwobr ariannol a beirniadaeth ysgrifenedig
  • Croeso cynnes i ymwelwyr ddod i wrando ar y rhagbrofion, yn ogystal â’r cyngerdd yn Eglwys Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni NP7 5EH gyda’r nos, pan gynhelir y cystadlaethau terfynol.
  • Byddwn yn cymryd ffotograffau ac yn eu defnyddio i hybu’r eisteddfod.
  • Mae mynediad i’r rhagbrofion am ddim.
  • Gofynnir i ymwelwyr a chystadleuwyr i dalu mynediad o £3 i’r cyngerdd gyda’r nos.