CANLLAWIAU I GYSTADLEUWYR O YSGOLION UWCHRADD
Ffurflenni cystadlu ar gyfer Eisteddfod 21 Mehefin 2008, YN Ysgol Harri'r VIII, Y Fenni
1. Mae'r cystadlaethau yn agored I unrhyw un sy'n mynychu ysgol uwchradd adeg yr Eisteddfod.
2. Rhaid i'r ffurflenni cystadlu fod i mewn erbyn Mai 24 2008.
3. Ar gyfer y cystadlaethau cerddorol, dewch â 2 gopi o'r gerddoriaeth gyda chi, un ar gyfer y beirniad ac un (y copi gwreiddiol) ar gyfer y cyfeilydd. Mynnwch y copi gwreiddiol yn ôl; fe ddinistrir llungopïau ar ôl yr Eisteddfod, rhag inni beidio â thorri'r Ddeddf Hawlfraint..
4. Gellir dychwelyd y ffurflenni naill ai ar-lein neu at Ruth Grant (gw. isod).
Rhagbrofion
5. Ni fydd mwy na thri unigolyn neu grŵp yn cystadlu ar brif lwyfan yr Eisteddfod ym mhob cystadleuaeth.
6. Os oes mwy na thri unigolyn neu grŵp yn cystadlu, cynhelir rhagbrofion yn ystod y y bore cyn yr Eisteddfod, i benderfynu pa dri chystadleuydd fydd yn cystadlu ar y llwyfan. Rhoddir manylion pellach I chi ar ôl y dyddiad cau.
7. Cynhelir y cystadlaethau I gyd ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yn Ysgol Brenin Harri'r VIII, Y Fenni.
8. Darperir cyfeilydd ar gyfer y cystadlaethau terfynol ar y llwyfan yn ystod y prynhawn. Gofynnir I chi ddod â chyfeilydd gyda chi ar gyfer y rhagbrofion os oes angen, neu adael I Ruth Grant wybod os yw hyn yn broblem.
Cystadlaethau llwyfan
9. Cynhelir y cystadlaethau i ysgolion uwchradd o tua 1.30 i 6.00 yr hwyr, y 21 Mehefin 2008.
10. Gellir cael un arweinydd (oedolyn neu oedran ysgol) yn ychwanegol os oes angen ar gyfer y cystadlaethau grŵp.
11. Ni ddylai unrhyw eitem gymryd mwy na 4 munud (neu 6 munud I'r ddawns rydd). Os ydi'r eitem yn hirach na hyn, gellir colli marciau.
12. Gallwch ddewis eich darnau eich hun, o fewn cyfyngiadau amser y cystadlaethau.
13. Bydd gwobrau o £15.00/£10.00/£5.00 I'r 1af/2il/3ydd, gwobrau Mr Ted Waller ar gyfer buddugwyr y cystadlaethau piano, a gwobrau ychwanegol ar gyfer 4 perfformiad gorau'r prynhawn. Yn newydd eleni, rhoddir £50.00 yn wobr i'r Grŵp Llefaru Gorau gan Gymdeithas Abbeyfield.
14. Gwahoddir y pedwar unigolyn gorau, ym marn y beirniaid, i berfformio ar lwyfan Theatr Bwrdeisdref Y Fenni gyda'r nos ar noson yr Eisteddfod, gyda'r oedolion sy'n cystadlu. Fe'u gwahoddir hefyd i berfformio yn nathliadau Gefellio'r Fenni â Beaupreau ac Oestringen ym mis Gorffennaf.
Costau mynediad a threfniadaeth
15. Rhoddir mynediad am ddim i bob plentyn i'r rhagbrofion a'r Eisteddfod.
16. Codir tâl mynediad o £2.00 i oedolion i Eisteddfod y plant dydd Sadwrn, neu £6.00 sy'n cynnwys mynediad i gystadlaethau'r oedolion yn Theatr y Bwrdeisdref gyda'r nos. Defnyddir yr incwm hwn i dalu costau, yn cynnwys medalau a chyhoeddusrwydd.
17. Trefnir yr Eisteddfod gan wirfoddolwyr; rhoddir croeso cynnes i aelodau newydd.
Cystadlaethau celf a llên Cyngor Tref Y Fenni
Rhoddir gwobrau ariannol i enillwyr 1af, 2il a 3ydd ym mlynyddoedd 7-11 & 12-13
CELF: Parêd y Carnifal
CERDD: Dathliadau
TRAETHAWD: Taith o gwmpas Y Fenni
Bydd manylion ar gael gan y Cyngh. D Edwards, ffôn 01873 855161, douglasedwards@monmouthshire.gov.uk
Os oes unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Ruth Grant, 01873 852282 neu â Marion Solomon, 01873 830235. Gellir dychwelyd ffurflenni at Ruth Grant, Nant Y Ffin, Chain Close, Y Fenni, NP7 7BR, neu ar-lein (www.eisteddfodyfenni.co.uk)
Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.
694 page views - © Abergavenny Eisteddfod Y Fenni . A Blind Lemon (web design)