Dolenni Defnyddiol

Tref farchnad fywiog yw'r Fenni, ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda digonedd o atyniadau at ddant pawb o fewn cyrraedd hawdd.

Os ydych yn dod i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn yr Eisteddfod, beth am aros i fwynhau rhai o'r siopau bach lleol diddorol, neu ymweld ag atyniadau lleol fel y Castell a'r Amgueddfa, neu Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon. Mae detholiad o westai a bwytai da yn y dref i'ch temtio i aros, a digwyddiadau lu drwy'r flwyddyn i'ch denu'n ôl dro ar ôl tro!

Ar y tudalennau hyn - Atyniadau, Llety a Digwyddiadau, (Welsh version of Attractions, Accommodation and Events) cewch ddolenni i wefannau eraill gyda mwy o wybodaeth. Efallai yr hoffech gysylltu ag un o'r grwpiau neu gymdeithasau lleol (local groups and societies) er mwyn cwrdd ag eraill sy'n rhannu'r un diddordeb â chi.

Tudalen y gellir ei brintio


Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.

Ymunwch â'n rhestr bostio:



English