NEWYDDION:  CANLYNIADAU

 

Eisteddfod Y Fenni 2011 (18 Mehefin)


Croeso cynnes i Eisteddfod Y Fenni, sy'n rhoi cyfle i bawb gystadlu - yn bobl ifainc ac oedolion, yn lleol ac o bell, trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Eleni cynhelir yr Eisteddfod am y degfed tro ers ei hail-lansio ar ôl bwlch o chwe deg pump o flynyddoedd. Gweler Sut i gystadlu am fanylion pellach, ar gael ym mis Chwefror 2011.

 

Cystadlaethau i blant ysgolion cynradd

Ceir cystadlaethau ar gyfer unigolion a grwpiau sy'n canu offerynnau, dawnsio, canu, a llefaru, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dyma ail flwyddyn y gystadleuaeth ddarllen ar yr olwg gyntaf. Ceir manylion yma.

Ceir manylion am y cystadlaethau celf a llenyddiaeth yma .

 

 Cystadlaethau ar gyfer pobl ifainc (11-18 oed cyn 1 Medi 2010)

Bydd cystadlaethau celf, barddoniaeth, rhyddiaith a ffotograffiaeth, yn ogystal â'r cystadlaethau llwyfan.  Rhagor o wybodaeth ar gael ym mis Chwefror.  

Gwahoddir y pedwar perfformiad gorau i berfformio yn Theatr y Bwrdeisdref gyda'r nos.

Ceir manylion am y cystadlaethau celf a llenyddiaeth yma ymhen ychydig.

 

Cystadlaethau i oedolion

Manylion ar gael yma ym mis Chwefror.

Cystadlaethau llenyddol yma ymhen ychydig.


 

 

 

Gellwch ebostio Ceri Thomas ar ceri-thomas@lineone.net neu ffonio ar 01873 850379 neu gellwch ffonio Chris Watson ar 01873 853894.

Tudalen y gellir ei brintio


Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.

Ymunwch â'n rhestr bostio:



Background border graphic
English