Sut i fod yn Noddwr

Dangosir rhestr o'n noddwyr ar dudalen y Noddwyr. Ni ellid ariannu'r Eisteddfod yn ddigonol o flwyddyn i flwyddyn heb eu cymorth gwerthfawr.

Mae Noddwyr yn galluogi'r Eisteddfod i roi cyfleoedd i blant a phobl ifainc leol ddatblygu eu sgiliau perfformio ar lwyfannau cyhoeddus. Maent hefyd yn cefnogi digwyddiad diwylliannol dwyieithog sy'n cyfrannu at raglen fywiog o weithgareddau blynyddol Y Fenni - er budd trigolion y dref ac ymwelwyr.

Cydnabyddir cefnogaeth ein Noddwyr yn rhaglen yr Eisteddfod, ac fe'u gwahoddir i gyngerdd yr Eisteddfod ac i dderbyniad gyda'r nos; gyrrir gwybodaeth ymlaen llaw atynt am unrhyw ddigwyddiadau arbennig a drefnir yn ystod y flwyddyn.

Prif gostau'r Eisteddfod yw'r gwobrau a medalau ar gyfer ennillwyr, tâl i feirniaid a chyfeilyddion, costau llogi neuaddau ac argraffu taflenni a phosteri i hybu'r gweithgareddau. Trefnir yr Eisteddfod gan Bwyllgor gwirfoddol.

Os hoffech noddi'r Eisteddfod, byddwch mor garedig â phrintio'r ffurflen isod a'i gyrru, gyda'ch cyfraniad (mae sieciau'n daladwy i Abergavenny Eisteddfod Y Fenni) at Drysorydd yr Eisteddfod, Doug Edwards, Stanhope Lodge, Chapel Lane, Y Fenni, NP7 7BT.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch ffonio Doug ar 01873 855161.

Noddwyr Eisteddfod Y Fenni

Hoffwn gefnogi Eisteddfod Y Fenni trwy gyfrannu:

£10.00 ....... £20.00...... £50.00...... £100.00....... other........

Enw: __________________________________________________

Cyfeiriad: ___________________________________________________

_________________________________________________________

___________________________________________________________

Rhif ffôn: ____________________________________________________

cyfeiriad e-bost: _________________________________________________

Llofnod: _____________________________________________________

Tudalen y gellir ei brintio


Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.

Ymunwch â'n rhestr bostio:



English