Y traddodiad eisteddfodol

Mae’r traddodiad o gynnal eisteddfodau yn un hen, hen iawn. Ystyr gwreiddiol eisteddfod oedd cynhadledd o bobl, yna casgliad o feirdd ac ymhen amser gŵyl yn cynnwys elfennau diwylliannol, nid anhebyg i’r gweithgareddau a welwn heddiw mewn eisteddfodau ledled Cymru.

Cynhaliwyd cyfarfod o feirdd a cherddorion yng nghastell Aberteifi ym 1176, ac yn ôl rhai dyma’r eisteddfod gyntaf mewn hanes. Ond mae’n sicrach mai cyfarfodydd tebyg i hyn yng Nghaerfyrddin tua 1451 ac yng Nghaerwys, ger Treffynnon, Sir Fflint ym 1523 a 1567 yw gwir darddiad yr eisteddfod fel yr adwaenir hi yng Nghymru fodern. Yng nghyfnod eisteddfodau Caerfyrddin a Chaerwys y sefydlwyd cyfundrefn o feirdd ynghyd â’r drefn fydryddol a sefydlu galwedigaeth beirdd yn ffurfiol.

Nid oes hanes eisteddfodol yn dilyn wedyn tan y ddeunawfed ganrif. Yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg dechreuwyd cyhoeddi Almanaciau, llyfrynnau rhad yn darogan y tywydd, darllen y sêr a chyhoeddi mân ddarnau o farddoniaeth a charolau. Ym 1701 trefnwyd eisteddfod gan un o gyhoeddwyr yr Almanaciau hyn, sef Thomas Jones, ym Machynlleth. Fe’i dilynwyd gan eraill yn Llandegla ym 1719, Dolgellau ym 1734 a’r Bala ym 1738.

Ychydig yn ddiweddarach aeth Edward Williams (1747-1826), sef Iolo Morgannwg, ati i ddyfeisio trefn dderwyddol newydd a sefydlu cyfundrefn a alwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn fuan wedyn cafodd y mudiad eisteddfodol hwb newydd mewn sawl talaith yng Nhymru, yn bennaf trwy weithgareddau Cymdeithasau’r Cymreigyddion, gan gynnwys Cymreigyddion y Fenni, a sefydlwyd ym 1833. O hyn ymlaen tan 1854 cynhaliwyd deg eisteddfod yn Abergafenni. Ar gychwyn pob eisteddfod cafwyd gorymdeithiau ysblennydd o gyrion y dre hyd at Westy’r Angel.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberdâr ym 1861, ond ni chafwyd olyniaeth o eisteddfodau cenedlaethol tan 1881 gydag Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tudful. Byth er hynny cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol ag eithrio 1914 a 1940 adeg y ddau ryfel byd.

Heddiw cynhelir nifer fawr o eisteddfodau lleol a chenedlaethol ledled Cymru, yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd i bobl ifainc ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a gynhelir yn y dref honno pob mis Gorffennaf. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf ym 1947, gyda'r nod o hybu heddwch rhwng y cenhedloedd ar ôl yr ail ryfel byd. Denir 2,500 o gystadleuwyr o dros 40 gwlad i Langollen ar gyfer yr Ŵyl hon, heb sôn am niferoedd mawr o ymwelwyr sy'n dod i fwynhau'r achlysur.

Tudalen y gellir ei brintio


Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.

Ymunwch â'n rhestr bostio: