Nawdd corfforaethol
Mae'r Eisteddfod yn hynod ddiolchgar i'n Noddwyr Corfforaethol am eu cefnogaeth, sy'n cynnwys ariannu rhai o brif wobrau'r Eisteddfod. Mae hyn yn galluogi'r Eisteddfod i ddenu cystadleuwyr o safon uchel dros ben, ac i ddarparu cyngerdd ardderchog i drigolion Y Fenni ac i ymwelwyr â'r drefRhoddir cydnabyddiaeth i Noddwyr Corfforaethol am eu haelioni yn y wasg, trwy hysbysebion a phosteri ac ar raglenni'r Eisteddfod, yn ogystal ag ar y wefan hon. Fe'u gwahoddir i gyngerdd yr Eisteddfod ac i'r derbyniad a gynhelir ym Mharlwr y Maer.
Hefyd gyrrir gwybodaeth ymlaen llaw atynt am unrhyw ddigwyddiadau arbennig a drefnir yn ystod y flwyddyn.
Croesewir diddordeb gan gwmnïau fyddai'n hoffi un ai noddi'r Eisteddfod yn gyffredinol, neu glustnodi cefnogaeth ar gyfer dibenion penodol. Er enghraifft, bob blwyddyn rydym yn ceisio cael nawdd i'r cystadlaethau a restrir isod. Mae Pwyllgor yr Eisteddfod hefyd yn croesawu syniadau newydd am gystadlaethau gwahanol.
- Unawd Gymraeg (cyfanswm o £250 o wobrau ariannol)
- Cân o Sioe Gerdd (cyfanswm o £250 o wobrau ariannol)
- Her Adroddiad (cyfanswm o £250 o wobrau ariannol)
- Unawd dan 25 (cyfanswm o £250 o wobrau ariannol)
- Unawd offerynnol dan 25 (cyfanswm o £250 o wobrau ariannol)
- Her Unawd (cyfanswm o £500 o wobrau ariannol)
Gwobrau arbennig i bobl ifainc addawol sy'n cystadlu mewn cystadlaethau canu, offerynnol, dawns, celf a llên (symiau amrywiol).
Os oes diddordeb gennych mewn bod yn Noddwr Corfforaethol, byddwch mor garedig â chysylltu un ai â Thrysorydd yr Eisteddfod, sef Doug Edwards, Stanhope Lodge, Chapel Lane, Y Fenni, NP7 7BT, 01873 855161, douglasedwards@freeuk.com, neu â'r Cadeirydd, Ceri Thomas, Cysgod y Coed, 121 Chapel Road, Abergavenny, NP7 7BL , 01873 850379, ceri-thomas@lineone.net. Edrychwn ymlaen at gael sgwrs.
Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.
3105 page views - © Abergavenny Eisteddfod Y Fenni . A Blind Lemon (web design)