EISTEDDFOD Y FENNI 16 MEHEFIN 2012

CANLLAWIAU I RIENI, GWARCHEIDWAID AC ATHRAWON PLANT YSGOLION CYNRADD

Ffurflenni cystadlu ar gyfer Eisteddfod 16 Mehefin 2012

1. Rhaid i'r ffurflenni cystadlu ar gyfer pob cystadleuaeth fod i mewn erbyn Mai 11 2012.
2. Dewch â 2 gopi o gerddoriaeth y cystadlaethau cerddorol i'r cystadlaethau o.g.y.dd: un i chi ac un i'r beirniad. Rhowch enw'r plentyn a rhif y gystadleuaeth ar y gerddoriaeth. Er mwyn cadw at y Ddeddf Hawlfraint, rhaid dod â'r copi gwreiddiol, a byddwn yn dinistrio llungopïau ar ôl yr Eisteddfod.
3. Ni chaniateir i gystadleuwyr heb gerddoriaeth gystadlu.
4. Os oes angen cyfeilydd ar y cystadleuydd, gyrrwch gopi o'r gerddoriaeth at Lindy Reed (gweler isod) o leiaf wythnos cyn yr Eisteddfod os gwelwch yn dda.
5. Dychwelwch y ffurflenni trwy'r ysgol, yma (ymhen ychydig) neu at Lindy Reed (gw. isod).

Rhagbrofion

6. Ni fydd mwy na thri unigolyn neu grŵp yn cystadlu ar brif lwyfan yr Eisteddfod ym mhob cystadleuaeth.
7. Os oes mwy na thri unigolyn neu grŵp yn cystadlu, cynhelir rhagbrofion cyn yr Eisteddfod, i ddewis tri chystadleuydd i gystadlu ar y llwyfan.
8. Cynhelir y rhagbrofion ar ôl ysgol (gan ddechrau am 4.30) fel a ganlyn:

• Dydd Llun 28 Mai - unawdau offerynnol: Ysgol Cantref
• Dydd Mawrth 29 Mai - grwpiau dawnsio gwerin: Ysgol Deri View
• Dydd Mercher 30 Mai - llefaru a darllen ar yr olwg gyntaf: Ysgol Our Lady & St Michael
• Dydd Iau 31 Mai - corau unsain a deulais: Ysgol Llandeilo Pertholau
• Dydd Llun 11 Mehefin - ensembles, deuawdau a thriawdau offerynnol: Ysgol Llanffwyst Fawr
• Dydd Mawrth 12 Mehefin - dawnsio disgo a dawnsio unigol: Ysgol Deri View
• Dydd Mercher 13 Mehefin - unawdau llais: Ysgol Gymraeg Y Fenni

Cystadlaethau llwyfan
9. Cynhelir y cystadlaethau i blant cynradd yn Ysgol Brenin Harri'r VIII, Y Fenni, o 9.00 y.b. i tua 1.30 y.h. 16 Mehefin 2012.
10. Ni ddylai unrhyw eitem gymryd mwy na 3 munud. Os ydi'r eitem yn hirach na 3 munud, bydd y beirniad yn tynnu marciau i ffwrdd.
11. Ennillir medal gan bob cystadleuydd sy'n cael llwyfan, ac arian (£10.00 yr un) gan y 4 cystadleuydd gorau a gwobrau Ted Waller i enillwyr y cystadlaethau piano.
12. Gall arweinwyr grwpiau fod yn oedolion neu'n blant.
13. Gofynnwn yn garedig i rieni, gwarcheidwaid ac athrawon sicrhau bod cynnwys a gwisgoedd y dawnsio yn addas i oedran y plant o.g.y.dd. Dim lleisiau ar y traciau cefnogi o.g.y.dd. OS NAD YW'R GERDDORIAETH YN ADDAS GWAHERDDIR Y CYSTADLEUYDD.

RHAID I BOB PLENTYN FOD DAN OFAL RHIANT NEU OEDOLYN CYFRIFOL ARALL YN YSTOD Y RHAGBROFION A'R EISTEDDFOD.

Costau mynediad a threfniadaeth
14. Rhoddir mynediad am ddim i bob plentyn oedran ysgol i'r rhagbrofion a'r Eisteddfod.
15. Codir tâl mynediad o £2.50 i oedolion i'r rhagbrofion, sy'n cynnwys mynediad i Eisteddfod y plant ddydd Sadwrn. Defnyddir yr incwm hwn i dalu costau, gan gynnwys medalau a chyhoeddusrwydd. Gellir gosod pris y tocyn hwn yn erbyn pris mynediad i Theatr Y Bwrdeistref gyda'r nos.
16. Trefnir yr Eisteddfod gan wirfoddolwyr. Croeso i aelodau newydd - gw. y wefan am wybodaeth, neu gysyllter ag aelod o'r pwyllgor.

Cystadlaethau celf a llên Cyngor Tref Y Fenni - agored i blant a phobl ifainc Sir Fynwy, Torfaen, Casnewydd, a Blaenau Gwent yn unig). Manylion o'r ysgol neu'r wefan www.eisteddfodyfenni.co.uk

Am fanylion pellach cysylltwch â Lindy Reed, 01873 840642 neu Nicola Morris, 01873 858139. Dychwelwch y ffurflenni i'r ysgol, yma (ymhen ychydig) neu at L. Reed, Llangattock Court, Penpergwm, Y Fenni NP7 9AR

 

 


 



Tudalen y gellir ei brintio


Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.

Ymunwch â'n rhestr bostio:



Background border graphic
English