CANLLAWIAU AR GYFER OEDOLION
Eisteddfod 15 Mehefin 2013
1. Ar wahan i gystadlaethau ag iddynt iaith benodedig, gellir cystadlu yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu mewn unrhyw iaith berthnasol ar gyfer y cystadlaethau canu)
2. Rhaid i'r ffurflenni cystadlu fod i mewn erbyn 24 Mai 2013
3. Gellir dychwelyd ffurflenni ar gyfer y cystadlaethau llwyfan yma neu at Mrs H Middleton, 2 Bryn Afal, Y Pandy, Y Fenni, NP7 8DW
4. Dylid dychwelyd ffurflenni a cheisiadau ar gyfer y cystadlaethau llên at Mr Chris Ellis, 52 North Street, Y Fenni, NP7 7ED (gw 14-18 isod hefyd)
5. Dylai cystadleuwyr canu neu offerynnol ddod â 2 gopi o'u cerddoriaeth gyda nhw ar y diwrnod: un copi (gwreiddiol) ar gyfer y cyfeilydd a'r llall (gwreiddiol neu gopi) ar gyfer y beirniad. Bydd copïau yn cael eu dinistrio ar ôl y gystadleuaeth, er mwyn peidio â thorri'r Ddeddf Hawlfraint.
6. Ni fydd mwy na thri chystadleuydd yn cystadlu ar brif lwyfan yr Eisteddfod ar gyfer pob cystadleuaeth, ar wahan i'r Her Unawd, lle bydd pedwar
7. Os oes mwy na 3 chystadleuydd ar gyfer unrhyw gystadleuaeth, cynhelir rhagbrofion i ddewis 3 i berfformio ar y llwyfan gyda'r nos
8. Cynhelir y rhagbrofion yng Nghapel y Methodistiaid, Castle Street, o 11.00 o'r gloch ymlaen ddydd Sadwrn yr Eisteddfod.
Cystadlaethau llwyfan
9. Cynhelir Eisteddfod yr hwyr yn Theatr y Bwrdeisdref, Y Fenni, o 7.00 o'r gloch i tua 11.00 yr hwyr
10. Ni ddylai unrhyw eitem llefaru gymryd mwy na 9 munud. Os ydi'r eitem yn hirach na 9 munud bydd y beirniad yn tynnu marciau i ffwrdd.
11. Bydd beirniadaethau ysgrifenedig ar gael i bob cystadleuydd. Rhoddir crynodeb o'r beirniadaethau o'r llwyfan yn ystod yr Eisteddfod
12. Gall cystadleuwyr ddewis eu darnau eu hunain, o fewn y cyfyngiadau amser.
13. Noder: ni chaiff cystadleuwyr yr Unawd dan 25 gystadlu hefyd yn yr Her Unawd
Os oes unrhyw ymholiadau am y cystadlaethau llwyfan, cysylltwch â h.middleton47@hotmail.co.uk (01873 890388)
Cystadlaethau llên (yma)
14. Dylid gyrru pob darn o waith i mewn yn sownd yn ei ffurflen gystadlu (gw. rhif 4 uchod), gyda ffug enw yn unig ar y gwaith ei hun a'r ffurflen
15. Ni ddylai storiau byrion fod yn hirach na 1,000 o eiriau, na cherddi'n hirach nag 20 llinell
16. Byddwn yn hysbysu enillwyr cyn yr Eisteddfod, a chyflwynir gwobrau yn ystod y noson
17. Os oes amser, byddwn yn darllen rhai darnau buddugol ar y noson
18. Cedwir yr hawl i gyhoeddi darnau buddugol yn y wasg neu ar lwyfan yr Eisteddfod; gall fod yn ddefnyddiol cael copi electronig o'ch gwaith ar gyfer hyn
Os oes unrhyw ymholiadau am y cystadlaethau llenyddol, cysylltwch â Chris Ellis c.ellis@virgin.net (01873 853938)
Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.
3005 page views - © Abergavenny Eisteddfod Y Fenni . A Blind Lemon (web design)