Amdanom Ni

Trefnir yr Eisteddfod gan bwyllgor gwirfoddol sy'n elwa o frwdfrydedd ac arbenigedd ystod eang o athrawon, cerddorion, caredigion llenyddiaeth a chelf, rhieni a phobl ifainc. Nid pawb ohonom sydd ag arbenigedd wrth gwrs - mae diddordeb ac ychydig o amser sbâr yn fwy na digon!

Ma'r pwyllgor yn cyfarfod yn anffurfiol tua phedair gwaith y flwyddyn, gydag is-bwyllgorau'n cyfarfod i drafod materion arbennig. Rydym bob amser yn hapus iawn i groesawu aelodau newydd. Os nad ydych yn hoff o bwyllgora, croeso i chi hefyd helpu mewn ffyrdd eraill - i baratoi'r Eisteddfod neu ar y diwrnod ei hun!

Os hoffech holi ynglyn â helpu trefnu'r Eisteddfod, ffoniwch Ceri Thomas ar 01873 850379.

Tudalen y gellir ei brintio


Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.

Ymunwch â'n rhestr bostio:



Background border graphic
English