Abergavenny Eisteddfod Logo

- ENGLISH

Eisteddfod Y Fenni

Rhwng 1834 a 1853, trefnwyd 10 eisteddfod yn Y Fenni gan Gymreigyddion Y Fenni, cymdeithas sy'n dal i gyfarfod hyd heddiw. Noddwyd yr eisteddfodau hyn gan Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, a adwanenid hefyd wrth ei henw barddol Gwenynen Gwent. Cafodd Arglwyddes Llanofer gryn ddylanwad ar ddiwylliant gwerin Cymru, er ei bod o dras Saesnig, trwy hybu'r wisg Gymreig draddodiadol yn ogystal â chaneuon gwerin a'r delyn deires.

Cefnogwyd Gwenynen Gwent yn ei hymdrechion diwylliannol gan ei gŵr, Syr Benjamin Hall (a roddodd ei enw i "Big Ben" Westminster) a chan Thomas Price, neu Carnhuanawc, un o gewri'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gweithiodd ef, fel Arglwyddes Llanofer, yn ddygn dros yr iaith Gymraeg mewn oes lle nad arddeliad o'r fath yn boblogaidd nac yn ffasiynol o gwbl.

Cynigiodd Arglwyddes Llanofer a'i grŵp wobrau hael dros ben i ennillwyr Eisteddfodau'r Fenni, weithiau cymaint ag 80 gini. Daeth cystadleuwyr o bell, ac roeddent yn cynnwys ysgolheigion Celtaidd o wledydd Ewrop ynghyd â llenorion o Gymry amlwg.

Yn 2002, ailgychwynwyd Eisteddfod Y Fenni gan grŵp lleol dan arweiniad Cynghorydd y Dref Douglas Edwards a'i wraig Edna, gyda Mrs Bronwen Green, Prifathrawes Ysgol Gymraeg Y Fenni. O 2003 ymlaen Ceri Thomas oedd cadeirydd y grŵp, ac yn 2012 etholwyd Rosemary Williams i'r swydd.

Ar y dechrau dim ond plant ysgol o ysgolion lleol oedd yn cystadlu, a chynhaliwyd y cystadleuthau i gyd yn yr Ysgol gyfun leol, Ysgol Brenin Harri'r VIII. O 2003 ymlaen, dechreuwyd cynnwys cystadleuthau i oedolion, ac yn 2004 symudwyd cystadleuthau'r oedolion i Theatr y Bwrdeistref, lleoliad sy'n gweddu'n dda i noson o gystadlu amrywiol o'r safon orau.