Eisteddfod Eleni
Gellwch weld beth sydd ymlaen ar y llwyfan yn ystod y dydd drwy glicio Rhaglen. Mae yna gymysgedd o gystadlaethau - llefaru, canu, canu offerynnau a dawnsio disgo a gwerin. Yn y rhan fwyaf ohonynt gall y cystadleuwyr ddewis eu darnau eu hunain - sydd yn rhoi profiad tipyn mwy diddorol i'r gynulleidfa nag a geir weithiau!Cynhelir cystadlaethau'r plant a'r bobl ifainc yn Ysgol Brenin Harri'r VIII yn Y Fenni. Am y tro cyntaf eleni rydym wedi cynnwys categorïau jazz a chlasurol ar gyfer cystadlaethau'r bobl ifainc.
Cynhelir cystadlaethau'r oedolion yn Theatr y Bwrdeisdref, Y Fenni, lleoliad arbennig sy'n denu cystadleuwyr o'r safon uchaf. Yn 2005 mae dwy gystadleuaeth newydd: Offerynnwr ifanc dan 25 a Chân o Sioe Gerdd, y ddwy â gwobrau ariannol o £200.
Os oes diddordeb gennych mewn cystadlu, cliciwch ar Sut i gystadlu, a'r tudalennau sy'n rhoi ffurflenni cystadlu ar gyfer plant, pobl ifainc, ac oedolion.
Croeso cynnes iawn i ymwelwyr. Gellwch brynu tocynnau ar gyfer y dydd yn unig, neu ar y cyd ar gyfer y dydd a'r sesiwn gyda'r nos.
Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.
1072 page views - © Abergavenny Eisteddfod Y Fenni . A Blind Lemon (web design)