Croeso i Eisteddfod y Fenni

21 Mehefin 2008 

DALIER SYLW: cawsom broblem dechnegol oedd yn golygu na fu'r ffurflen gais ar-lein yn gweithio'n iawn, felly nid ydym wedi derbyn rhai ffurflenni. Rydym wedi llwyddo i ddatrys y broblem ond byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn gallu ail-yrru unrhyw ffurflenni a yrrwyd rhwng 27 Mawrth a 4 Mai. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.


 

 Croeso cynnes i chi i Eisteddfod Y Fenni, fel cystadleuydd neu fel ymwelydd.

Mae cystadlaethau i offerynnwyr, i gantorion ac i lefarwyr ar y llwyfan, a chystadlaethau llên a chelf hefyd. Cynhelir Eisteddfod y plant a phobl ifainc mewn ysgol leol, ac Eisteddfod yr Oedolion yn Theatr y Bwrdeisdref Y Fenni.

Cynhelir Eisteddfod Y Fenni bob blwyddyn ar ganol mis Mehefin. Eleni fydd ei seithfed flwyddyn ers iddi gael ei hail-lansio ar ôl bwlch o 65 mlynedd. Er ei bod yn llai na rhai eisteddfodau enwocach, nid yw’n llai cyfeillgar, a thyfu mae’r niferoedd sy’n cystadlu o flwyddyn i flwyddyn.

Bob blwyddyn ceisiwn gyflwyno rhai pethau newydd. Eleni cynigir cystadleuaeth newydd i oedolion: deuawd neu driawd i offerynnwyr neu i gantorion - neu gyfuniad o'r ddau. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gwahodd rhai o berfformwyr ifainc gorau’r prynhawn i ddiddanu’r gynulleidfa yn Theatr y Bwrdeisdref gyda’r nos, ochr yn ochr â’r oedolion.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau defnyddio’r wefan newydd hon. Gadewch inni wybod os oes unrhyw syniadau gennych sut y gallwn wella’r wybodaeth sydd arni.

Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ceri Thomas - ceri-thomaslineone.net
Rhif ffôn: 01873 850379

 

Cystadlaethau Celf a Llenyddiaeth i blant 2008

Noddir a threfnir y cystadlaethau celf a llenyddiaith i blant oedran cynradd ac uwchradd gan Gyngor Tref Y Fenni.

Rhoddir gwobrau ariannol i'r enillwyr (1af, 2il a 3ydd), ym mhob un o'r categoriau canlynol: Blynyddoedd 1 a 2, 3 a 4, 5 a 6, 7 - 11 a 12 a 13.

Dyma'r teitlau ar gyfer ymgeiswyr ym mhob oedran:

CELF: Parêd y Carnifal

CERDD: Dathliadau

RHYDDIAITH: Taith o gwmpas Y Fenni

Dylid gyrru gwaith i mewn naill ai drwy'r ysgol neu at y Cynghorydd Douglas Edwards, Stanhope Lodge, Chapel Lane, Y Fenni, NP7 7BT.

 

Tudalen y gellir ei brintio


Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.

Ymunwch â'n rhestr bostio:



English