Croeso i Eisteddfod y Fenni
21 Mehefin 2008
Croeso cynnes i chi i Eisteddfod Y Fenni, fel cystadleuydd neu fel ymwelydd.
Mae cystadlaethau i offerynnwyr, i gantorion ac i lefarwyr ar y llwyfan, a chystadlaethau llên a chelf hefyd. Cynhelir Eisteddfod y plant a phobl ifainc mewn ysgol leol, ac Eisteddfod yr Oedolion yn Theatr y Bwrdeisdref Y Fenni.
Cynhelir Eisteddfod Y Fenni bob blwyddyn ar ganol mis Mehefin. Eleni fydd ei seithfed flwyddyn ers iddi gael ei hail-lansio ar ôl bwlch o 65 mlynedd. Er ei bod yn llai na rhai eisteddfodau enwocach, nid yw’n llai cyfeillgar, a thyfu mae’r niferoedd sy’n cystadlu o flwyddyn i flwyddyn.
Bob blwyddyn ceisiwn gyflwyno rhai pethau newydd. Eleni cynigir cystadleuaeth newydd i oedolion: deuawd neu driawd i offerynnwyr neu i gantorion - neu gyfuniad o'r ddau. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gwahodd rhai o berfformwyr ifainc gorau’r prynhawn i ddiddanu’r gynulleidfa yn Theatr y Bwrdeisdref gyda’r nos, ochr yn ochr â’r oedolion.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau defnyddio’r wefan newydd hon. Gadewch inni wybod os oes unrhyw syniadau gennych sut y gallwn wella’r wybodaeth sydd arni.
Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ceri Thomas - ceri-thomas
lineone.net
Rhif ffôn: 01873 850379
Cystadlaethau Celf a Llenyddiaeth i blant 2008
Noddir a threfnir y cystadlaethau celf a llenyddiaith i blant oedran cynradd ac uwchradd gan Gyngor Tref Y Fenni.
Rhoddir gwobrau ariannol i'r enillwyr (1af, 2il a 3ydd), ym mhob un o'r categoriau canlynol: Blynyddoedd 1 a 2, 3 a 4, 5 a 6, 7 - 11 a 12 a 13.
Dyma'r teitlau ar gyfer ymgeiswyr ym mhob oedran:
CELF: Parêd y Carnifal
CERDD: Dathliadau
RHYDDIAITH: Taith o gwmpas Y Fenni
Dylid gyrru gwaith i mewn naill ai drwy'r ysgol neu at y Cynghorydd Douglas Edwards, Stanhope Lodge, Chapel Lane, Y Fenni, NP7 7BT.
Os hoffech dderbyn newyddion am Eisteddfod Y Fenni byddwch mor garedig â thanysgrifio i'n rhestr bostio. Ni rennir eich manylion â neb arall a gallwch newid neu ddileu eich enw unrhyw amser.
6404 page views - © Abergavenny Eisteddfod Y Fenni . A Blind Lemon (web design)